PET(4)-05-11 Papur 7a

P-03-311 Spectacle Theatre

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid yn parhau ar gyfer Cwmni Theatr Spectacle, yng Nghwm Rhymni, sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r cwmni wedi gwasanaethu ysgolion a chymunedau ers dros 30 mlynedd, a bydd ei golli yn amddifadu pobl o adnodd amhrisiadwy a sefydlwyd ers amser maith ac, o ganlyniad, gyfleoedd yn y dyfodol i gymryd rhan mewn theatr a drama leol. 

Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-311.htm

Cynigwyd gan:Cyfeillion Theatr Spectacle

Nifer y llofnodion:2,158

Gwybodaeth ategol:

Sefydlwyd Cwmni Theatr Spectacle ym 1979. Yn ddiweddar, penderfynodd Cyngor Celfyddydau Cymru i beidio ag ariannu’r cwmni ymhellach, gan ddechrau yn y flwyddyn ariannol nesaf (o fis Ebrill 2011).

 

Ar ôl treulio degawdau yn ymgysylltu ag ysgolion a phrosiectau cymunedol amrywiol yn awdurdod Rhondda Cynon Taf ac awdurdodau lleol eraill, mae Cwmni Theatr Spectacle yn parhau i gynhyrchu gwaith theatr o ansawdd uchel sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol a materion pwysig eraill.

 

Mae’r cwmni yn ceisio hyrwyddo cydraddoldeb a’r syniad o ddinasyddiaeth, a gwella’r sefyllfa yn hynny o beth, ac felly’n cyfrannu at gydlyniant cymunedol. Mae’n amlwg bod ysbryd sawl elfen berthnasol o ddogfen Cymru’n Un, yn ogystal ag ymarferion cysylltiedig, eisoes wedi’u mewnoli yng ngwaith y cwmni.

 

Mewn datganiad Cabinet a wnaed yn gynharach eleni ar Ymrwymiadau Cymru’n Un mewn perthynas â’r Celfyddydau, dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth:

Mae cymunedau lleol yn bwysig, ac mae’n hanfodol rhoi’r cyfle i bobl Cymru wylio neu gymryd rhan yn y celfyddydau ble bynnag maent yn byw.

Mae Cwmni Theatr Spectacle yn parhau i gyflawni’r nod hwn mewn modd ymarferol. Er enghraifft, yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r cwmni wedi cyfrannu at gyfanswm o 385 o berfformiadau a sesiynau gweithdy, ac felly wedi ymgysylltu â 14,329 o gyfranogwyr, gan gynnwys 12,000 o ddisgyblion ysgol yn eu plith.

 

Ychwanegodd y Gweinidog:

Drwy osod sylfeini cadarn yma yng Nghymru, yr ydym hefyd yn sicrhau fod gennym gelfyddydau uchel eu hansawdd i’w harddangos dramor fel rhan o’n gwaith i hyrwyddo ein henw da yn rhyngwladol.

 

Cydnabuwyd hygrededd rhyngwladol Cwmni Theatr Spectacle yn 2007, pan enillodd y cwmni ddwy wobr mewn gŵyl ryngwladol ar gyfer theatr plant a gynhaliwyd yn Shanghai. Mewn perthynas â’i gynhyrchiad o The Lazy Ant, enillodd y cwmni’r wobr am y cynhyrchiad gorau a’r wobr am y sgript orau. Aethpwyd â’r cynhyrchiad ar daith o amgylch Cymru yn dilyn yr ŵyl.

 

Bydd y penderfyniad i beidio ag ariannu Cwmni Theatr Spectacle ymhellach nid yn unig yn peryglu swyddi’r chwe aelod o staff craidd, ond bydd hefyd yn peryglu cyfleodd cyflogaeth eraill posibl a’r profiadau eang a gynigir i nifer o weithwyr theatr (oddeutu 50 dros y flwyddyn ddiwethaf).

 

Yn allweddol, bydd Cwm Rhondda, sydd eisoes wedi’i ddynodi’n ardal ag ‘anghenion’, ynghyd ag ardaloedd eraill y mae’r cwmni yn eu cynnwys yn ei weithgareddau, yn colli eu darpariaeth theatr ar gyfer ysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd cymunedau hefyd yn cael eu hamddifadu ymhellach o ran diwylliant os caiff y cwmni proffesiynol, crefftus a phrofiadol hwn ei ddiddymu.